Helpwch i ddod â'r Vulcan yn fyw a dod yn rhan o stori Cymru drwy gyfrannu heddiw!
Dyma'ch cyfle chi i fod yn rhan o stori'r Vulcan. Cyfrannwch heddiw a chefnogi eicon o hanes Caerdydd.
Cafodd y Vulcan ei chofrestru gyntaf yn 1853 fel 'tŷ cwrw' ar Adam Street, Caerdydd, yn gwasanaethu cymuned Wyddelig Newtown. Gwelodd y dafarn newid mawr dros y blynyddoedd, wrth i Gaerdydd dyfu'n ganolfan ddiwydiannol a phrifddinas y genedl. Caeodd y dafarn ei drysau ym mis Mai 2012, ac rydyn ni wedi bod yn brysur yn ailadeiladu'r adeilad fesul bricsen yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.
Drwy gyfrannu heddiw, gallwch chi hefyd gefnogi un o eiconau hanesyddol Caerdydd. Fel elusen, rydyn ni'n dibynnu ar haelioni pobl Cymru ac ymwelwyr i'n helpu i warchod, cadw, ac adrodd stori Cymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ymunwch â ni, cefnogwch ni, a dod yn rhan o bennod newydd gyffrous yn Sain Ffagan.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â datblygu@amgueddfacymru.ac.uk