Ymunwch â’n Cylchoedd Cyfrannu heddiw
Dewch i fod yn gefnogwr Cylch Cyfrannu a helpwch ni i ysbrydoli pobl a newid bywydau drwy stori Cymru.
Fel cefnogwr Cylch Cyfrannu, gallwch ddyfnhau eich perthynas gydag Amgueddfa Cymru a mwynhau’r canlynol:
- Teithiau tu ôl i’r llenni wedi’u curadu ar eich cyfer chi
- Rhagolwg o’n harddangosfeydd ac orielau
- Gwahoddiad i’n digwyddiad blynyddol Cylchoedd Cyfrannu
- Ein cylchlythyr cefnogwyr ddwywaith y flwyddyn
Ar yr un pryd, byddwch chi’n cael y boddhad o wybod eich bod yn helpu cenedlaethau’r dyfodol i fwynhau cyfoeth amrywiol hanes a diwylliant Cymru.
Mae ein Cylchoedd Cyfrannu yn dechrau o £1000 y flwyddyn.
Oeddech chi’n gwybod bod gennym ni hefyd gynllun Noddwyr? Mae dod yn Noddwr yn dechrau o £300 y flwyddyn.
Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio i hwyluso eich buddion lle bo’n berthnasol, cysylltwch â datblygu@amgueddfacymru.ac.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.